Elfen gemegol yn seithfed rhes y tabl cyfnodol ydy elfen cyfnod 7. Mae'r tabl cyfnodol wedi'i osod mewn rhesi taclus er mwyn dangos patrymau yn ymddygiad y gwahanol elfennau, wrth i'w rhifau atomig gynyddu. Pan fo'r ymddygiad yn cael ei ailadrodd, dechreuir rhes newydd. Mae'r elfennau sydd ag ymddygiad tebyg, felly, o dan ei gilydd, mewn colofnau.
Mae pob elfen sydd yn y cyfnod hwn yn ymbelydrol (Saesneg: radioactive). Yn eu plith fe geir yr elfen drymaf sydd i'w chael yn naturiol yn y Ddaear sef, wraniwm. Mae'r rhan fwyaf gweddill elfennau'r cyfnod yma wedi eu creu'n artiffisial mewn labordy. Ceir tunelli o rai (megis plwtoniwm) ond mae eraill yn ofnadwy o brin, a dim ond microgramau (neu lai!) ohonyn nhw wedi eu cynhyrchu dros y blynyddoedd. Ychydig atomau'n unig sydd wedi'u cynhyrchu o rai elfennau.
Sylwer fod y cyfnod hwn hefyd yn cynnwys y actinidau.
Dyma'r elfennau hynny sy'n perthyn i gyfnod 7:
Grŵp | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 | 12 | 13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
# Enw |
87 Fr |
88 Ra |
89-103 | 104 Rf |
105 Db |
106 Sg |
107 Bh |
108 Hs |
109 Mt |
110 Ds |
111 Rg |
112 Cn |
113 Uut |
114 Uuq |
115 Uup |
116 Uuh |
117 Uus |
118 Uuo |
Actinidau | 89 Ac |
90 Th |
91 Pa |
92 U |
93 Np |
94 Pu |
95 Am |
96 Cm |
97 Bk |
98 Cf |
99 Es |
100 Fm |
101 Md |
102 No |
103 Lr |
Categorïau o elfennau yn y Tabl Cyfnodol | |||||||||
|
|